Un o bleserau cudd mynd i’r eisteddfod genedlaethol bob blwyddyn yw’r broses o ddychwelyd yn ôl i Aberystwyth. Gan fy mod yn mynd i’r eisteddfod gyda dau sy’n aros yno tan y funud olaf - un sy’n gorfod gwneud oherwydd ei fod yn gweithio fel arfer ac un arall sy’n mynnu gwneud oherwydd ei fod am wasgu’r diferyn olaf o bleser allan o’r ysbwng eisteddfodol - mae hynny fel arfer yn digwydd ddydd Sul. Gan nad oes unman yng Nghymru - hyd yn oed o’n gwthio i eithafion Môn. Mynwy. Penfro neu’r Fflint - yn fwy na rhyw dair awr o Aberystwyth mae hynny’n golygu ein bod yn medru dychwelyd yn hamddenol gan gymryd amser i ymweld â’r lle hwn a’r lle arall.
Felly eleni eto. Mae’n rhaid imi gyfaddef tra bo pawb arall yn meddwl am yr eisteddfod dwi’n meddwl am beth allwn ni ei wneud ar ein ffordd adref o’r eisteddfod. Roeddwn i am alw heibio i bentref Y Waun i dalu gwrogaeth i’r arloeswr rhyngrwyd Cymraeg sy’n dod o’r lle yn wreiddiol. Wedyn does dim llawer o ddewis ond mynd trwy Loegr ac roeddwn i’n gwybod y byddai cyfle i dalu gwrogaeth i’r bardd Wilfred Owen yn apelio i’r cwmni diwylliedig yr oeddwn wedi treulio wythnos yn eu cwmni.
Wnaethon ni ddim gadael yr Wyddgrug yn gynnar iawn fore Sul felly erbyn inni gyrraedd y Waun yr oedd hi’n amser inni feddwl am ein cinio. Mae’r pentref yn gorwedd ar y ffordd fawr ond mae darnau helaeth ohono yn cuddio oddi arni. Fel arfer pan fydd rhywun yn sôn am Y Waun mae pawb yn meddwl am y ond mae llawer mwy i’r lle na hynny. Efallai o ran diwylliant poblogaidd yr hyn sy’n gwneud Y Waun yn arbennig yw taw yma y ganwyd un o’r sêr cynharaf y byd pêl-droed sef yr enwog. Nid dyn i gadw at y rheolau oedd Billy ac fe gafodd ei wahardd o’r gêm ar un adeg am dalu llwgrwobr i aelod o dîm oedd yn chwarae yn ei erbyn er mwyn gadael iddo yntau ennill. Yn fwy anrhydeddus yr oedd yn un a arweiniodd yr ymgais i gael undeb llafur cryf i chwaraewyr pêl-droed proffesiynol. Er ar y bore Sul hwn welson ni’r un arwydd o gofeb i Meredith ond dwi’n siŵr fy mod wedi clywed fod ‘na un wedi’i chodi iddo yn ei bentref genedigol ond doedd dim i’n cyfeirio’r teithiwr i’w chyfeiriad. Yn nes at ein hoes ni yma y ganed a fu’n chwarae fel gôl-geidwad yn nhîm rhyngwladol Cymru yn ystod y cyfnod 1997-2006.
Yr unig le welson ni oedd ar agor i gael cinio oedd The transfer Hotel ond nid yn y gwesty ei hun ond yn Ye Odle Brewery Suite yn bell yn y cefn. Roedd hwn yn lle digon normal ar un olwg dim ond yn raddol y gwawriodd erchreiddigrwydd y lle arnom ni. Yn sylfaenol doedd hi ddim yn edrych fel petai neb yn ‘rhedeg’ y lle ac nad oedd gan y gweinyddwyr serchog yr un syniad o sut i ‘redeg’ eu hunain. Golygai hyn oedi mawr rhwng cyrsiau rhai yn cael bwyd tra bod rhywun arall ar yr un bwrdd yn disgwyl deng munud am eu bwyd hwy. Ac roedd gofyn y cwestiwn am ba fath o gawl oedd i’w gael yn drech na phawb bron. Dylen ni fod wedi dyfalu bod rhywbeth bach rhyfedd am y lle wrth ddod i mewn a gweld copy o ddraig goch enfawr yn sefyll yn y cyntedd gyda diffoddydd tân reit wrth ei hymyl rhag ofn i rywbeth fynd o’i le.
Dw i’n teimlo rhyw black out o gyfrifoldeb dros hyn nawr. Dw i wedi cael yr un fath o brofiad â ti yng ngwesty’r Hand a rhai llawer gwaeth yn y bar cyhoeddus wrth law. Gwell beidio sôn am y rheiny.
Mae jyst cyferbyn â’r transfer yn yr ardd ar bwys coffeb mareddog Eric Gill i filwyr y Rhyfel Fawr. Gallet ti fod wedi ymweld â’r lle wrth aros am dy gawl. ;-)
Dyw e ddim yn beth hawdd i’w gyfadde ond pan dw i am beint yn Y Waun dw i’n tueddu cerdded dros y ffin (jyst abowt) ac yfed yn y “Trap” neu’r connect i’w roi ei enw swyddogol. Tro diwetha i mi fod ‘na oedd y boi tu ôl i’r bar yn gwisgo bathodyn Bwrdd yr Iaith a ches i wasanaeth bonheddig. Cymreig a Chymraeg trwy’r nos. Postiwyd
Forex Groups - Tips on Trading
Related article:
http://blogdogfael.org/2007/10/01/eisteddfod-2007-08-12-1/
comments | Add comment | Report as Spam
|